![]() | |
Math | pabell ![]() |
---|---|
![]() |
Pabell siâp côn yw tipi, a wneir yn draddodiadol o bolion pren hir syth wedi'u gorchuddio â chrwyn anifeiliaid, er y gall tipis modern gael eu gorchuddio â chynfas. Mae gan y strwythur ddau fflap nodweddiadol i ryddhau mwg o'r tu mewn.
Defnyddiwyd tipis gan rai o brodorion Gogledd America, yn enwedig ar Wastadeddau Mawr yr Unol Daleithiau a Chanada, yn arbennig y Sioux a'u saith is-lwyth, yr Iowa, yr Otoe, y Pawnee, a llwythau eraill. Fe'i defnyddiwyd hefyd ar ochr orllewinol y Rockies gan lwythau fel yr Yakama a'r Cayuse. Mae llawer o'r cymunedau hyn yn dal i'w defnyddio, er yn bennaf at ddibenion seremonïol yn hytrach na bywyd bob dydd. Roedd tipi yn aml yn cael eu paentio.[1]
Daw'r gair "tipi" o'r iaith Lakota.[2]
Mae'r gair "wigwam" weithiau'n cael ei ddefnyddio'n anghywir ar gyfer tipi. Fodd bynnag, mae wigwam yn fath gwahanol o strwythur, sef cysgodfan siâp cromen wedi'i gwneud o risgl wedi'i haenu ar bolion.