![]() Côr o blant Tsiecaidd yn eu gwisg werin draddodiadol. | |
Enghraifft o: | grŵp ethnig, pobl, Poblogaeth ![]() |
---|---|
Mamiaith | Tsieceg ![]() |
Crefydd | Catholigiaeth, protestaniaeth, husiaeth, eglwysi uniongred ![]() |
Rhan o | Slafiaid Gorllewinol ![]() |
Yn cynnwys | Silesians, Moravians ![]() |
Enw brodorol | Češi ![]() |
![]() |
Cenedl a grŵp ethnig Slafig sydd yn frodorol i Tsiecia yng Nghanolbarth Ewrop yw'r Tsieciaid. Tsieceg, o gangen orllewinol yr ieithoedd Slafonaidd, yw eu hiaith frodorol. Maent yn cyfri am ryw 95% o boblogaeth y Weriniaeth Tsiec gyfoes. Maent yn disgyn o'r llwythau Slafaidd a ymsefydlodd yn nhiroedd Tsiecia—Bohemia, Morafia, a Silesia—yn y 6g, ac yn perthyn yn agos i'r Slafiaid gorllewinol eraill: y Slofaciaid, y Pwyliaid, a'r Sorbiaid.