![]() | |
Tyrcmenistan Türkmenistan (Turkmeneg) | |
![]() | |
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad dirgaeedig, gwlad ![]() |
---|---|
Prifddinas | Ashgabat ![]() |
Poblogaeth | 6,117,933 ![]() |
Sefydlwyd | 13 Mai 1925 (Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Turkmen) 22 Awst 1990 (Annibyniaeth) |
Anthem | Garaşsyz, Bitarap, Türkmenistanyň Döwlet Gimni ![]() |
Cylchfa amser | UTC+05:00, Asia/Ashgabat ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Twrcmeneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Canolbarth Asia ![]() |
Arwynebedd | 491,210 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Casachstan, Wsbecistan, Affganistan, Iran ![]() |
Cyfesurynnau | 39°N 60°E ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Cenedlaethol Tyrcmenestan ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Tyrcmenestan ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Serdar Berdimuhamedow ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Tyrcmenestan ![]() |
![]() | |
![]() | |
Arian | Manat newydd Tyrcmenestan ![]() |
Canran y diwaith | 10 ±1 canran ![]() |
Cyfartaledd plant | 2.301 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.745 ![]() |
Mae Tyrcmenistan yn wlad ddirgaeedig yng Nghanolbarth Asia. Ashgabat yw'r brifddinas a'r ddinas fwyaf. Mae'n un o'r chwe gwladwriaeth Tyrcig annibynnol. Gyda phoblogaeth o dros 7 miliwn (yn ôl y Llywodraeth,[1] Tyrcmenistan yw'r 35ain wlad fwyaf poblog yn Asia[2] ac mae ganddi'r boblogaeth isaf o weriniaethau Canolbarth Asia tra'n un o'r cenhedloedd mwyaf gwasgaredig ei phoblogaeth ar gyfandir Asia.[3]
Mae amcangyfrifon swyddogol o'r boblogaeth yn debygol o fod yn rhy uchel, o ystyried y dueddiad i ymfudo i ganfod gwaith.[4] [5] Yng Ngorffennaf 2021 adroddodd yr wrthblaid, yn seiliedig ar dair ffynhonnell ddienw annibynnol, fod poblogaeth Tyrcmenistan rhwng 2.7 a 2.8 miliwn, hynny yw, yn llai na Chymru.[6]
Mae'n ffinio â Casachstan i'r gogledd-orllewin, Wsbecistan i'r gogledd, dwyrain a gogledd-ddwyrain, Afghanistan i'r de-ddwyrain, Iran i'r de a'r de-orllewin a Môr Caspia i'r gorllewin.[7]
Cafwyd sawl ymerodraeth a diwylliant yma dros y canrifoedd.[8] Merv yw un o'r dinasoedd-gwerddon hynaf yng Nghanolbarth Asia,[9] ac roedd unwaith ymhlith dinasoedd mwya'r byd.[10] Roedd hefyd yn un o ddinasoedd mawr y byd Islamaidd ac yn arhosfan bwysig ar Ffordd y Sidan. Fe'i hunwyd gan Ymerodraeth Rwsia ym 1881 a chwaraeodd ran amlwg yn y mudiad gwrth-Bolsiefaidd yng Nghanolbarth Asia. Ym 1925, daeth Tyrcmenistan yn weriniaeth gyfansoddol o fewn yr Undeb Sofietaidd, gyda'r enw 'Gweriniaeth Sofietaidd Sofietaidd Tyrcmenaidd (Turkmen SSR)'; daeth yn annibynnol ar ôl diddymu'r Undeb Sofietaidd yn 1991.[8]
Mae'r wlad yn cael ei beirniadu'n hallt am ei diffyg hawliau dynol,[11][12] gan gynnwys ei chamdriniaeth o leiafrifoedd, a'i diffyg rhyddid y wasg a rhyddid crefyddol. Ers ei hannibyniaeth o'r Undeb Sofietaidd yn 1991, mae Tyrcmenistan wedi'i rheoli gan gyfundrefnau totalitaraidd gormesol: sef yr Arlywydd am Oes Saparmurat Niyazov (a elwir hefyd yn Türkmenbaşy/Türkmenbaşı sef "Bennaeth y Tyrcmeniaid") hyd ei farwolaeth yn 2006; Gurbanguly Berdimuhamedow, a ddaeth yn Arlywydd yn 2007 ar ôl ennill etholiad annemocrataidd; a'i fab Serdar, a enillodd yr etholiad arlywyddol dilynol yn 2022 mewn etholiad a ddisgrifiwyd gan arsylwyr rhyngwladol fel un "nad oedd yn rhydd nac yn deg"; mae bellach yn rhannu'r grym gwleidyddol gyda'i dad.[13][14][15]
Mae gan Tyrcmenistan y pumed cronfa fwyaf o nwy naturiol yn y byd.[16] Mae'r rhan fwyaf o'r wlad wedi'i gorchuddio gan Anialwch Karakum. Rhwng 1993 a 2019, derbyniodd ei dinasyddion drydan, dŵr a nwy naturiol a ddarparwyd gan y llywodraeth yn rhad ac am ddim.[17] Mae Tyrcmenistan yn wladwriaeth o fewn Sefydliad y Taleithiau Tyrcaidd, cymuned Türksoy ac yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig.[18]
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw :0
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw meteo2
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw :1
Once the world's biggest city, the Silk Road metropolis of Merv in modern Turkmenistan destroyed by Genghis Khan's son and the Mongols in AD1221 with an estimated 700,000 deaths.