![]() | |
![]() | |
Arwyddair | Justitia Omnibus ![]() |
---|---|
Math | prifddinas ffederal ![]() |
Enwyd ar ôl | George Washington, Christopher Columbus ![]() |
Poblogaeth | 689,545 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Muriel Bowser ![]() |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain, UTC−05:00, UTC−04:00, America/Efrog Newydd ![]() |
Gefeilldref/i | Rhanbarth Brwsel-Prifddinas, Bangkok, Dakar, Beijing, Athen, Pretoria, Seoul, Accra, Sunderland, Ankara, Brasília, Addis Ababa, Paris, Rhufain, San Salvador, City of Tshwane Metropolitan Municipality ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | taleithiau cyfagos UDA, Canolbarth yr Iwerydd, rhaniad ddinesig Washington–Arlington–Alexandria ![]() |
Sir | District of Columbia ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 177 km² ![]() |
Uwch y môr | 72 metr ![]() |
Gerllaw | Afon Potomac, Afon Anacostia, Rock Creek ![]() |
Yn ffinio gyda | Arlington County, Alexandria, Prince George's County, Montgomery County, Fairfax County, Bethesda, Silver Spring ![]() |
Cyfesurynnau | 38.895°N 77.0367°W ![]() |
Cod post | 20001–20098, 20201–20599 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Dosbarth Columbia ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Muriel Bowser ![]() |
![]() | |
Prifddinas Unol Daleithiau America yw Washington, D.C. (District of Columbia: Ardal Columbia)[1]. Fe'i henwir ar ôl George Washington, ac mae'r 'DC' yn cyfeirio at ddalgylch Columbia lle lleolir y ddinas. Yn y cyfrifiad diwethaf, roedd gan y ddinas boblogaeth o 689,545 (1 Ebrill 2020)[2] - llai na dwywaith maint Caerdydd. Dyma oedd y ddinas 24ain fwyaf poblog yn yr Unol Daleithiau yn 2010. Yn sgil cymudwyr sy'n byw yn y maestrefi, cynydda boblogaeth Washington D.C. i dros filiwn yn ystod yr wythnos waith. Mae ardal ddinesig di-dor Washington Fwyaf yn ymestyn i Maryland, Virginia, a Gorllewin Virginia, ac yn cynnwys poblogaeth o bron 5,600,000.
Fe'i lleolwyd ar Afon Potomac sy'n ffinio â Maryland a Virginia, a chynhaliodd y Gyngres ei sesiwn gyntaf yno ym 1800. Enwyd y ddinas ar ôl George Washington, arlywydd cyntaf yr Unol Daleithiau ac un o'r "Tadau Sylfaenol", sef sefydlwyr yr Unol Daleithiau.[3] Enwir yr ardal ffederal ar ôl Columbia, personoliad benywaidd o'r genedl (a'r enw "Columbus"), fel a welir yn y Cerflun Rhyddid (Statue of Liberty) a llawer o enwau llefydd. Fel sedd llywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau a sawl sefydliad rhyngwladol, mae'r ddinas yn brifddinas wleidyddol bwysig yn y byd.[4] Mae'n un o'r dinasoedd yr ymwelir â hi fwyaf yn yr Unol Daleithiau, gyda dros 20 miliwn o ymwelwyr yn 2016.[5][6]
Mae'r ddinas wedi'i rhannu'n chwarteri (neu'n 'gwadrantau') sydd wedi'u canoli ar Adeilad y Capitol, ac mae cymaint â 131 o gymdogaethau (neighborhoods). Mae maer a etholwyd yn lleol a chyngor 13-aelod wedi llywodraethu'r ardal ers 1973. Cadwa'r Gyngres yr awdurdod goruchaf dros y ddinas a gallant wyrdroi deddfau lleol. Ethola preswylwyr D.C. un dirprwy di-bleidlais, i Dŷ'r Cynrychiolwyr, ond nid oes gan yr ardal gynrychiolaeth yn y Senedd. Mae pleidleiswyr y dosbarth (district) yn dewis tri etholwr arlywyddol yn unol â'r Trydydd Gwelliant ar hugain i Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau, a gadarnhawyd ym 1961.
Lleolir tair cangen o lywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau yn yr ardal: y Gyngres (deddfwriaethol), yr arlywydd (gweithredol), a’r Goruchaf Lys (barnwrol). Mae Washington yn gartref i lawer o henebion ac amgueddfeydd cenedlaethol, wedi'u lleoli'n bennaf ar neu o amgylch y National Mall. Ceir yn y ddinas 177 o lysgenadaethau tramor yn ogystal â phencadlys llawer o sefydliadau rhyngwladol, undebau llafur, grwpiau di-elw, grwpiau lobïo, a chymdeithasau proffesiynol, gan gynnwys Grŵp Banc y Byd, y Gronfa Ariannol Ryngwladol, Sefydliad Taleithiau America, yr AARP, y Gymdeithas Ddaearyddol Genedlaethol, yr Ymgyrch Hawliau Dynol, y Gorfforaeth Cyllid Rhyngwladol, a Chroes Goch America.
In the days of the Truman Doctrine, the Marshall Plan and the creation of NATO, [Clark Clifford] said, we saved the world, and Washington became the capital of the world.