![]() | |
Math | tref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 6,664, 6,639 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys ![]() |
Gwlad | ![]() |
Gerllaw | Afon Hafren ![]() |
Cyfesurynnau | 52.6597°N 3.1473°W ![]() |
Cod SYG | W04000352 ![]() |
Cod OS | SJ225075 ![]() |
Cod post | SY21 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Steve Witherden (Llafur) |
![]() | |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Manylion | |
Tref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Y Trallwng[1] (Saesneg: Welshpool;[2] cyn 1835 Pool). Saif yng ngogledd-ddwyrain y sir ar lan Afon Hafren, 4 milltir (6.4 km) o'r ffin rhwng Cymru â Lloegr. Arferai fod yn yr hen Sir Drefaldwyn. Gerllaw, i'r dwyrain, saif Cefn Digoll (408 metr (1,339 tr), a chwaraeodd ran mor allweddol yn amddiffyn y genedl oddi wrth y goresgynwyr estron: y Saeson. Yma ar 16 Awst 1485 y cyfarfu dwy fyddin: milwyr Harri Tudur (tua dwy fil o filwyr) a byddin Rhys ap Thomas (tua 3,000) gan uno'n un fyddin gref; oddi yma teithiodd y fyddin tua'r dwyrain i'r Amwythig ac ymlaen i Faes Bosworth.
Ceir yn y Trallwng farchnad ddefaid, a gynhelir bob dydd Llun, yw'r mwyaf o'i fath yn Ewrop.[3] Tua milltir o'r dref saif Castell Powys, a godwyd yn wreiddiol gan y Tywysogion Cymreig yn y 13g. Cysegrir y ddwy eglwys i sant Cynfelyn.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan Alex Davies-Jones (Llafur).[5]