![]() Perfformiad o'r ddrama Saer Doliau gan Gwmni Theatr Cymru ym 1977. | |
Enghraifft o: | ffurf gelf ![]() |
---|---|
Math | y celfyddydau ![]() |
![]() |
Y celfyddydau hynny a berfformir yn fyw ar gyfer cynulleidfa yw'r celfyddydau perfformio.[1] Maent yn cynnwys sawl modd o ddefnyddio'r corff, y llais, a gwrthrychau i gyfleu mynegiant celfyddydol. Y prif gelfyddydau perfformio yw cerddoriaeth, dawns, a'r theatr. Cwmpasir gan y term hefyd amrywiaeth eang o ddisgyblaethau a thraddodiadau sy'n gweithio ag offer, celfi, neu wrthrychau eraill i gyflwyno sioe o ryw fath, gan gynnwys consurio, tafleisiaeth, a sgiliau syrcas. Gwahaniaethir rhwng y celfyddydau perfformio a'r celfyddydau gweledol, sy'n siapio defnyddiau a chyfryngau i greu gweithiau materol sefydlog.
Mae perfformiadau megis cerddoriaeth, drama a chomedi, gymnasteg, a llawdrin gwrthrychau yn gyffredin i holl ddiwylliannau'r ddynolryw. Gellir olrhain cerddoriaeth a dawns yn ôl i gynhanes, ac mae sgiliau syrcas yn dyddio'n ôl i'r Hen Aifft. Perfformir y fath gelfyddydau'n broffesiynol, gan amaturiaid, neu fel difyrwaith, ac mewn sawl man: adeiladau megis y chwaraedy neu'r neuadd gyngerdd, ar lwyfannau awyr agored neu mewn pebyll, neu ar y stryd.
Yn ogystal â'u gwerth celfyddydol, mae perfformiadau byw ger bron cynulleidfaoedd yn ffurf ar adloniant. Gall celfyddyd perfformio fod yn enghraifft o gelfyddyd gain (megis bale neu opera) neu'n rhan o ddiwylliant poblogaidd.