Math | cyfnod o hanes, gwlad ar un adeg ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Rhufain, Talaith Imperia ![]() |
Prifddinas | Rhufain, Caergystennin, Ravenna, Milan, Rhufain ![]() |
Poblogaeth | 87,500,000 ±33000000 ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Lladin, Hen Roeg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Rhufain hynafol ![]() |
Arwynebedd | 5,957,000 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Parthia ![]() |
Cyfesurynnau | 41.9°N 12.5°E ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Cyfnod daearegol | y cynfyd clasurol ![]() |
Corff deddfwriaethol | Senate of the Roman Empire ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | ymerawdwr Rhufain ![]() |
![]() | |
Sefydlwydwyd gan | Augustus ![]() |
Crefydd/Enwad | ardal o fewn Rhufain hynafol, eglwys wladwriaethol yr Ymerodraeth Rufeinig ![]() |
Arian | Roman currency ![]() |
Yr Ymerodraeth Rufeinig (Lladin: Imperium Romanum) yw'r term a ddefnyddir am y cyfnod yn hanes y wladwriaeth Rufeinig a ddilynodd y Weriniaeth Rufeinig ac a barhaodd hyd y 5g OC yn y gorllewin, ac fel yr Ymerodraeth Fysantaidd hyd 1453 yn y dwyrain. Yn wahanol i'r Weriniaeth, lle'r oedd yr awdurdod yn nwylo Senedd Rhufain, llywodraethid yr ymerodraeth gan gyfres o ymerawdwyr, gyda'r Senedd yn gymharol ddi-rym. Awgrymwyd nifer o ddyddiadau gan haneswyr ar gyfer diwedd y weriniaeth a dechrau'r ymerodraeth; er enghraifft dyddiad apwyntio Iŵl Cesar fel dictator am oes yn 44 CC, buddugoliaeth etifedd Cesar, Octavianus ym Mrwydr Actium yn 31 CC, a'r dyddiad y rhoddodd y Senedd y teitl "Augustus" i Octavianus (16 Ionawr 27 CC).
Roedd Rhufain eisoes wedi meddiannu tiriogaethau helaeth yng nghyfnod y Weriniaeth; daeth yn feistr ar ran o Sbaen yn dilyn ei buddugoliaeth yn y rhyfel cyntaf yn erbyn Carthago, a dilynwyd hyn gan diriogaethau eraill. Cyrhaeddodd yr ymerodraeth ei maint mwyaf yn ystod teyrnasiad Trajan tua 177. Yr adeg honno roedd yr ymerodraeth yn ymestyn dros tua 5,900,000 km² (2,300,000 milltir sgwâr) o dir.
Rhannwyd yr ymerodraeth yn ddwy ran, yn y gorllewin a'r dwyrain, fel rhan o ddiwygiadau'r ymerawdwr Diocletian. Daeth yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin i ben yn 476 pan ddiorseddwyd yr ymerawdwr olaf, Romulus Augustus. Parhaodd yr ymerodraeth yn y dwyrain am bron fil o flynyddoedd wedi hyn fel yr Ymerodraeth Fysantaidd. Cafodd yr ymerodraeth Rufeinig ddylanwad enfawr ar y byd, o ran iaith, crefydd, pensaernïaeth, athroniaeth, cyfraith a llywodraeth; dylanwad sy'n parhau hyd heddiw.