Elfen gemegol ymbelydrol ydy einsteiniwm gyda'r symbol Es a'r rhif atomig 99 yn y tabl cyfnodol. Ychydig iawn ohono sydd wedi cael ei greu, ond credir mai arian yw lliw'r elfen hon. Ac fel elfennau synthetig eraill mae'n gollwng ymbelydredd eithriadol o gryf. Ni wneir unrhyw ddefnydd masnachol ohoni. Mae ganddo 19 isotop, y mwyaf sefydlog ydy 252Es gyda'i hanner-oes yn 471.7 diwrnod. Cafodd ei henwi ar ôl y gwyddonydd Albert Einstein a'i darganfod yn Rhagfyr 1952 gan Albert Ghiorso ym Mhrifysgol Califfornia, Berkeley.