Llangefni

Llangefni
Mathtref sirol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCymuned Llangefni Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.256°N 4.314°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH4675 Edit this on Wikidata
Cod postLL77 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map

Tref a chymuned yng nghanol Ynys Môn ydy Llangefni.[1][2] Mae wedi bod yn dref farchnad bwysig i'r ynys. Llangefni yw tref sirol Môn a lleolir pencadlys Cyngor Sir Ynys Môn yma. Mae Caerdydd 211.6 km i ffwrdd o Llangefni ac mae Llundain yn 344.7 km. O'i tharddle ger Llyn Cefni rhed Afon Cefni trwy'r dref, sy'n cymryd ei enw o'r afon. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 11.7 km i ffwrdd.

Y prif dref fasnachol ac amaethyddol yn Ynys Môn ydy Llangefni. Cafodd marchnad gyntaf y dref ei chynnal yn 1785 ac mae'n dal i gael ei chynnal bob dydd Iau a dydd Sadwrn. Ers talwm roedd Llangefni yn gartref i farchnad wartheg fwyaf yr ynys. Bellach mae yna ystâd ddiwydiannol gymharol fawr, sy'n cynnwys ffatri brosesu cyw iâr fawr, y gweithrediad diwydiannol sengl mwyaf yn y dref, yn ogystal â nifer o fusnesau bach eraill.

Yn y dref ceir Oriel Môn, gydag amgueddfa sy'n olrhain hanes yr ynys ac oriel i ddangos gwaith yr arlunydd bywyd gwyllt Charles Tunnicliffe.

Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan cymuned Llangefni boblogaeth o 5,499.[3] Mae 83.8% o'r boblogaeth honno'n rhugl yn y Gymraeg gyda'r canran uchaf yn yr oedran 10-14 mlwydd gyda 95.2% yn medru'r Gymraeg.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)[4] ac yn Senedd y DU gan Virginia Crosbie (Ceidwadwyr).[5]

Stryd y Bont, tua 1875
  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 12 Chwefror 2023
  2. British Place Names; adalwyd 29 Mawrth 2023
  3. City Population; adalwyd 29 Mawrth 2023
  4. Gwefan Senedd Cymru
  5. Gwefan Senedd y DU

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne