Math | dinas annibynnol ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Cecil Calvert, 2nd Baron Baltimore ![]() |
Poblogaeth | 585,708 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Brandon Scott ![]() |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain, UTC−05:00, UTC−04:00, America/Efrog Newydd ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Baltimore metropolitan area ![]() |
Sir | Maryland ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 238.411179 km² ![]() |
Uwch y môr | 10 ±1 metr ![]() |
Gerllaw | Afon Patapsco, Jones Falls, Chesapeake Bay ![]() |
Yn ffinio gyda | Baltimore County, Anne Arundel County ![]() |
Cyfesurynnau | 39.2864°N 76.615°W ![]() |
Cod post | 21201–21298 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Baltimore ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Baltimore ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Brandon Scott ![]() |
![]() | |
Dinas annibynnol yn nhalaith Maryland, Unol Daleithiau America, yw Baltimore. Dyma ddinas fwyaf talaith Maryland. Lleolir Baltimore yng nghanolbarth Maryland ar lan Afon Patapsco, sy'n llifo i Fae Chesapeake. Cyfeirir at Baltimore fel Baltimore City weithiau er mwyn gwahaniaethu rhyngddi a Swydd Baltimore, sef yr ardal o'i chwmpas. Wedi'i sefydlu yn 1729, mae Baltimore yn un o borthladdoedd mwyaf yr Unol Daleithiau.
Yn 2008, roedd 636,919 o bobl yn byw yn Baltimore, ond mae gan Ardal Fetropolitaidd Baltimore boblogaeth o tua 2.7 miliwn, yr 20fed fwyaf yn UDA.
Enwir y ddinas ar ôl yr Arglwydd Baltimore o Iwerddon, prif sefydlwr Gwladfa Maryland. Cymerodd Baltimore ei hun ei deitl o enw lle ym mhlwyf Bornacoola, yn Swydd Leitrim a Swydd Longford, Iwerddon. Seisnigiad yw 'Baltimore' o'r enw lle Gwyddeleg Baile an Tí Mhóir, sy'n golygu "Tre'r Tŷ Mawr" (nid yr un lle yw hwn â Baltimore, Swydd Corc, sef Dún na Séad yn Wyddeleg.