Cynghanedd

Dull o drefnu geiriau ac odl mewn barddoniaeth er mwyn iddynt swnio'n bersain ac er mwyn i'r farddoniaeth fod yn gofiadwy ydy cynghanedd. Mae'n system o roi trefn arbennig ar gytseiniaid ac mae'n unigryw i'r Gymraeg, (er i farddoniaeth Llydaweg Canol hefyd gael system eitha tebyg). Mae'r gynghanedd fel cyfundrefn yn dyddio'n ôl i'r 14g gyda'r twf sydyn ym mhoblogrwydd mesur y cywydd, ond mae trefnu seiniau o fewn llinell a rhwng llinellau yn draddodiad llawer hŷn. Ceir cyseinedd yng ngwaith y Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd, e.e. Hi hen eleni ganed, sy'n llinell o gynghanedd draws allan o Ganu Llywarch Hen a gyfansoddwyd, fe dybir, tua chanol y 9g, a'r llinell Gwedi boregad, briwgig o waith Taliesin (6g).

Pan fo cerdd yn cynnwys cynghanedd, dywedir ei bod yn gerdd gaeth.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne