Naturiolaeth (athroniaeth)

Naturiolaeth
Enghraifft o'r canlynolmudiad athronyddol, barn y byd Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebGoruwchnaturiol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Unrhyw ddamcaniaeth sydd yn haeru bod yr holl fodau a digwyddiadau yn y bydysawd yn naturiol yw naturiolaeth.[1] Mae'n cysylltu'r dull gwyddonol ag athroniaeth trwy dal bod holl wybodaeth y bydysawd yn dod o fewn gwelw ymchwiliad gwyddonol. Fel rheol, mae naturiolaeth felly yn gwrthod y goruwchnaturiol a'r ysbrydol. Mae rhai mathau o naturiolaeth yn caniatáu i'r goruwchnaturiol, ar yr amod y gellir cael gwybodaeth amdano yn anuniongyrchol, hynny yw, bod endidau goruwchnaturiol (fel y'u gelwir) yn dylanwadu ar wrthrychau naturiol mewn ffordd y gellir ei chanfod.[2]

O safbwynt y naturiolydd, mae natur a realiti yn gyfystyr ac yn unfath, ac nid oes unrhyw beth gwirioneddol canfyddadwy y tu hwnt i'r bydysawd naturiol. Gyrrir natur oll gan ddeddfau gwrthrychol y gellir eu profi mewn termau pendant trwy ddulliau gwyddonol. Wrth ymdrin ag epistemoleg, mae'r mwyafrif o naturiolwyr yn gwrthod metaffiseg, ac yn canolbwyntio yn gyfan gwbl ar ddiriaeth, ar draul haniaeth.

O ran ontoleg, nid oes gan naturiolaeth ffafriaeth tuag at unrhyw set benodol o gategorïau realiti. Er iddi gael ei chysylltu yn aml â materoliaeth, gall fod hefyd yn gyson â delfrydiaeth; yn yr un modd, gall gydweddu â naill ai deuoliaeth neu fonyddiaeth, ac anffyddiaeth neu theistiaeth.

Bu naturiolaeth fodern ar ei hanterth yn y 1930au a'r 1940au, yn enwedig yn Unol Daleithiau America. Ymhlith prif athronwyr yr ysgol hon mae F. J. E. Woodbridge, Morris R. Cohen, John Dewey, Ernest Nagel, a Sidney Hook.

  1.  naturiolaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2021.
  2. (Saesneg) Naturalism (philosophy). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2021.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne