Prifysgol Bryste

Prifysgol Bryste
Arwyddairim promovet insitam Edit this on Wikidata
Mathprifysgol gyhoeddus, Red brick university, prifysgol ymchwil, sefydliad addysgol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1909 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadBryste Edit this on Wikidata
SirDinas Bryste Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.4564°N 2.6044°W Edit this on Wikidata
Cod postBS8 1TH Edit this on Wikidata
Map


Prifysgol ym Mryste, Lloegr yw Prifysgol Bryste.[1] Derbyniodd freinlen frenhinol ym 1909,[2] ond serch hynny, roedd ‘University College’ (rhagflaenydd Prifysgol Bryste) wedi bod mewn bodolaeth ers 1876.[3] Mae’r brifysgol ym Mryste yn un o aelodau gwreiddiol yr enwog ‘Red Brick Universities’ ynghyd â Birmingham, Leeds, Lerpwl, Manceinion a Sheffield. Ystyrir Bryste fel un o ddeg prifysgolion gorau’r Deyrnas Unedig, ac yn wir, mae rhan fwyaf y cynghreiriau prifysgol yn tystio i’r ffaith yn flynyddol [4][5][6] Mae’r Brifysgol yn derbyn y nifer mwyaf o geisiadau i bob lle sydd ar gael nag unrhyw brifysgol Brydeinig arall.[7] Cyllid blynyddol y Brifysgol yw £260m.[8]

Mae’r Brifysgol yn aelod o’r Grŵp Russell,[9] yn ogystal â’r grŵp Ewropeaidd, Grŵp Coimbra[10] a hefyd Rhwydwaith Rhyngwladol Prifysgolion (Worldwide Universities Network) Mae tua 23,000 o fyfyrwyr ym mhrifysgol Bryste, ac yn wir, un o ddau prifysgol ym Mryste yw Prifysgol Bryste. Mae’r llall, Prifysgol Gorllewin Lloegr (The University of the West of England) yn iau na Phrifysgol Bryste. Cafodd y Brifysgol lot o sylw yn ystod y flwyddyn 2003 ynglŷn â’i pholisïau mynediad, gyda chwynion bod y Brifysgol yn ffafrio disgyblion o’r sector breifat yn lle disbylion o ysgolion cyhoeddus, llywodraethol.[11]

  1. "Maps and Guides". The University precinct map. Cyrchwyd 2008-04-28.
  2. "The University of Bristol Acts". THE UNIVERSITY OF BRISTOL ACT 1909. Cyrchwyd 2007-05-13.
  3. "Bristol University History". History of the University. Cyrchwyd 2007-05-13.
  4. "The Times Good University Guide 2007". Top Universities 2007 League Table. Cyrchwyd 2007-05-14.
  5. "The Sunday Times University League Table" (PDF). 2007 League Table. Cyrchwyd 2007-05-14.
  6. "The Good University Guide". The Good University Guide. Cyrchwyd 2007-05-14.
  7. "Times Online:UCL most popular university online". The Times. 2006. Cyrchwyd 2008-05-16.
  8. "Wildscreen Festival 2006: University of Bristol". Wildscreen. 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-04. Cyrchwyd 2007-12-20.
  9. "The Russell Group". List of Russell Group Members. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-05-14. Cyrchwyd 2007-05-14.
  10. "The Coimbra Group". List of Coimbra Group Members. Cyrchwyd 2007-05-14.
  11. "Bristol faces boycott over admissions row". The Guardian. Cyrchwyd 2007-12-03.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne