Rhesiad o styffylau cyn cael eu defnyddioStyffylwr gyffredin gydag einion deu-ddefnydd ar gyfer plygu 'coesau' y stwffwl am fewn ac allan
Mae'r stwffwl (ar lafar, hefyd stêpl neu steplyn) yn darn metel lled-symudadwy a ddefnyddir i osod elfennau tenau. Caiff styffylau eu defnyddio mewn gwahanol ffyrdd:
i ddal dalennau o bapur: mae pen y stwffwl yn mynd drwy'r dail ac yn plygu ar yr ochr arall i ddal y dail at ei gilydd;
fel dull a chymorth i ddal at ei gilydd wal, pared neu fwrdd bwletin;
defnyddir styffylau ar gyfer gwneud blychau mewn cardbord neu bren;
caiff styffylau eu defnyddio er mwyn amgau deunydd ar gyfer adeiladu, inswleiddio, selio anwedd
ar gyfer gwaith meddygol a llawdriniaethol i gau neu uno gwahano organnau e.e. croen wedi ei rwygo
Efallai, bellach, mai yng nghyd-destun styffylu papur gyda styffylwr y caiff y gair stwffwl ei chysylltu gyntaf ym meddyliau'r cyhoedd. Datodir y stwffwl gan declyn dadstyffylu.