Japan

Japan
日本国 neu 日本
Nippon-koku
ArwyddairEndless discovery Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, ynys-genedl, gwlad Edit this on Wikidata
PrifddinasTokyo Edit this on Wikidata
Poblogaeth125,440,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 3 Mai 1947 (The Constitution of Japan) Edit this on Wikidata
AnthemKimigayo Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethFumio Kishida Edit this on Wikidata
Cylchfa amseramser safonol Japan, Asia/Tokyo, UTC+09:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Japaneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDwyrain Asia Edit this on Wikidata
GwladBaner Japan Japan
Arwynebedd377,972.28 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr Japan, Y Cefnfor Tawel, Môr Okhotsk, Môr Dwyrain Tsieina, Philippine Sea Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaRwsia, De Corea, Taiwan, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Unol Daleithiau America, Yr Undeb Sofietaidd, y Philipinau Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35°N 136°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolGovernment of Japan Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholNational Diet Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Ymerawdwr Japan Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethNaruhito Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Japan Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethFumio Kishida Edit this on Wikidata
Map
Crefydd/EnwadShintō, Bwdhaeth, Cristnogaeth Edit this on Wikidata
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$5,005,537 million, $4,231,141 million Edit this on Wikidata
ArianYen Edit this on Wikidata
Canran y diwaith4 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.38 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.925 Edit this on Wikidata

Mae Japan (Japaneg: 日本 "Cymorth – Sain" ynganiad Nihon; Nippon neu Nihon-koku; hefyd yn Gymraeg, Siapan) yn wlad sy'n cynnwys 6,852 o ynysoedd yn nwyrain Asia; y 4 fwyaf yw Honshu, Hokkaido, Kyushu, a Shikoku. Fe'i hamgylchynnir gan y Cefnfor Tawel (Taiheiyō), Setonaikai a Môr Japan (Nihonkai). Gorwedda i'r de-ddwyrain o Rwsia, i'r dwyrain o Tsieina a Chorea ac i'r gogledd-ddwyrain o ynys Taiwan. Tokyo yw prifddinas y wlad, ac ymhlith y dinasoedd eraill mwyaf poblog y mae: Yokohama, Osaka, Nagoya, Sapporo, Fukuoka, Kobe, a Kyoto. Yn y Cyfrifiad diwethaf, roedd poblogaeth y wlad yn 125,440,000 (Chwefror 2022)[1].

Yn 2021, Japan oedd yr 11fed wlad fwyaf poblog yn y byd, yn ogystal ag un o'r gwledydd mwyaf poblog a threfol. Mae tua 75% o dir y wlad yn fynyddig, ac mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn byw yn y gwastadeddau arfordirol, cul. Rhennir Japan yn 47 o daleithiau gweinyddol ac wyth rhanbarth traddodiadol. Ardal Tokyo Fwyaf yw'r ardal fetropolitan fwyaf poblog yn y byd, gyda mwy na 37.4 miliwn o drigolion.

Mae pobl wedi byw yn Japan ers y cyfnod Paleolithig Uchaf (neu Hen Oes y Cerrig Uchaf, sef tua 30,000 CC), er bod y sôn ysgrifenedig cyntaf am yr archipelago yn ymddangos mewn cronicl Tsieineaidd a orffennwyd yn yr 2g OC. Gellir cymharu hyn gydag Ogof Bontnewydd, Llanelwy, lle cafwyd hyd i ddant dynol sy'n mynd nôl tua 225,000 o flynyddoedd. Rhwng y 4g a'r 9g, daeth unwyd teyrnasoedd Japan o dan un ymerawdwr a'r llys ymerodrol wedi'i leoli yn Heian-kyō. Gan ddechrau yn y 12g, daliwyd y pŵer gwleidyddol gan gyfres o unbeniaid milwrol (shōgun) ac arglwyddi ffiwdal (daimyō), drwy ddosbarth o uchelwyr rhyfelgar (samurai). Ar ôl cyfnod o ganrif o ryfel cartref, adunwyd y wlad ym 1603 o dan Tokugawa shogun, a ddeddfodd bolisi tramor ynysig. Ym 1854, gorfododd fflyd o logau milwrol a masnach o’r Unol Daleithiau Japan i fasnachu gyda'r Gorllewin, a arweiniodd at ddiwedd y shogunate ac adfer pŵer ymerodrol (Adferiad y Meiji) ym 1868. Yn y cyfnod Meiji, mabwysiadodd Ymerodraeth Japan gyfansoddiad wedi'i fodelu ar y Gorllewin a dilyn rhaglen a oedd yn datblygu diwydiant a moderneiddio. Yn 1937, goresgynnodd Japan Tsieina; ym 1941, aeth i'r Ail Ryfel Byd fel un o bartneriaid yr Almaen. Fe'i trechwyd yn Rhyfel y Môr Tawel a dau fomiad atomig Hiroshima a Nagasaki. Iildiodd Japan ym 1945 a daeth o dan feddiannaeth y Cynghreiriaid am gyfnod o saith mlynedd, pan fabwysiadodd gyfansoddiad newydd. O dan gyfansoddiad 1947, mae Japan wedi cynnal brenhiniaeth seneddol seneddol unedol gyda deddfwrfa ddwyochrog, y Ddau Dŷ, neu'r 'Diet' Cenedlaethol .

Mae Japan[2] yn bwer mawr ac yn aelod o nifer o sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig (ers 1956), yr OECD, a'r Grŵp o Saith. Er ei bod wedi ymwrthod â’i hawl i ddatgan rhyfel, mae’r wlad yn cynnal Lluoedd Hunan-Amddiffyn a gaiff ei hystyried fel un o fyddinoedd cryfaf y byd. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, profodd Japan y twf mwyaf erioed yn economaidd, gan ddod yr economi ail-fwyaf yn y byd erbyn 1990. O 2021 ymlaen, economi'r wlad yw'r drydedd-fwyaf yn ôl CMC enwol a'r bedwaredd-fwyaf gan PPP. Caiff y wlad ei hystyried yn arweinydd byd-eang yn y diwydiannau modurol ac electroneg, ac wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i wyddoniaeth a thechnoleg. Yn "uchel iawn" ar y Mynegai Datblygiad Dynol, yma, ceir un o ddisgwyliadau oes ucha'r byd, er fod yma ostyngiad yn y boblogaeth. Mae diwylliant Japan yn adnabyddus ledled y byd, gan gynnwys ei chelf, bwyd, cerddoriaeth, a'i diwylliant poblogaidd, sy'n cwmpasu diwydiannau comig, animeiddio a gemau fideo amlwg.

  1. https://www.stat.go.jp/english/data/jinsui/tsuki/index.html. dyddiad cyrchiad: 22 Chwefror 2022.
  2. "Official Names of Member States (UNTERM)" (PDF). UN Protocol and Liaison Service. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-06-05. Cyrchwyd May 21, 2020.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne